Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta

Cross-Party Group on Eating Disorders

Dydd Mawrth 18 Chwefror 2014

 

Yn bresennol: Bethan Jenkins AC (cadeirydd), Martin Ball (rhiant), James Downs (defnyddiwr gwasanaeth), Hannah Barnes (Going Public, Theatr mewn Addysg), Dr Menna Jones (Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Cwm Taf), Susannah Humphrey (Beat Cymru), Ewan Hilton (Gofal)

 

Fframwaith Anhwylderau Bwyta

Rhoddodd Dr Menna Jones amlinelliad o'r prif faterion cyfredol:

a)    Oedi o ran meddygon teulu a staff gofal sylfaenol yn canfod anhwylderau bwyta: Mae canllawiau ar gyfer canfod anhwylderau ar gael (WaMH in PC Taflen 8, dogfennau asesu risg a ddatblygwyd gan De Llundain a Maudsley a ddefnyddir yn genedlaethol), ac mae angen tynnu sylw'n ehangach at yr angen i wella lefelau canfod a chynyddu ymwybyddiaeth o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol.

 

b)    Buddsoddiad CAMHS mewn anhwylderau bwyta: Mae'r buddsoddiad wedi'i anelu ar hyn o bryd at wasanaethau Haen 4 ar gyfer datblygu gwasanaethau ar gyfer anhwylderau bwyta yn CAMHS. Mae angen cefnogaeth ar wasanaethau Haen 3 er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth yn gyffredinol ar gyfer anhwylderau bwyta yn CAMHS.

 

c)    Adolygiad o wasanaethau cleifion preswyl arbenigol i oedolion: Nid oes gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd o ran bwrw ymlaen â'r ymgynghori ar wasanaethau anhwylderau bwyta i gleifion preswyl yng Nghymru. Cafodd tîm y prosiect ei gyfarfod cyntaf ym mis Gorffennaf 2012, gan gynhyrchu crynodeb o opsiynau ar gyfer ymgynghori yng ngwanwyn 2013. Cafodd yr ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad eu casglu ym mis Mehefin 2013. Cafodd gweithdai ymgynghori ar gyfer rhanddeiliaid eu trefnu ar gyfer Tachwedd 2013 ond fe'u canslwyd am fod niferoedd isel wedi cadw lle.

 

Ar bwynt a), dywedodd Ewan Hilton fod Gofal wedi cynnal astudiaeth ymwybyddiaeth iechyd meddwl ymysg y GIG, ond nad oedd yn ymwneud yn benodol ag anhwylderau bwyta. Awgrymwyd bod rhai meddygon teulu yn amharod i ddelio â materion iechyd meddwl o'u cymharu â materion iechyd corfforol. Dywedodd James fod lefelau canfod anhwylderau yn annigonol a bod y cleifion yn gorfod gwthio eu hunain.

 

Ar bwynt b) dywedodd Bethan, yn ei chyfarfod diweddar gyda'r Gweinidog Iechyd, ei fod wedi dweud ei fod yn bwriadu dod yn ôl a thriniaeth ar gyfer cleifion o Gymru yn Lloegr. Dywedodd hefyd fod Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i CAHMS a bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal dau ymchwiliad i'r gwasanaeth yn y 10 mlynedd diwethaf ac wedi dod o hyd i fylchau. Dywedodd Ewan bod galwad am dystiolaeth wedi'i gwneud ac y byddai Gofal yn cysylltu â Beat i weld a oedd gan Beat unrhyw dystiolaeth a allai fod yn berthnasol. Nododd Martin y gallai diffyg ymwybyddiaeth ynghylch anhwylderau bwyta gostio cymaint â £700,000 mewn costau gofal fesul claf unigol dros ddegawd ac y gallai gwell ymwybyddiaeth arwain at ostyngiad mewn costau.

 

Ar bwynt c), cytunodd Bethan i ysgrifennu fel cadeirydd at Lywodraeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Adborth gan AWEDSIG:

a)    Mae Wendy Bell bellach yn ymgymryd â rôl arweiniol hyfforddiant ar gyfer anhwylderau bwyta ac yn trefnu cynadleddau AWEDSIG dair gwaith y flwyddyn. Mae'r gynhadledd nesaf wedi'i threfnu ar gyfer 8 Ebrill, i gyflwyno'r gwasanaethau GIG a ddarperir yn ne-ddwyrain Cymru. Lleoliad i'w gadarnhau.

b)    Bydd pwyllgor rheoli AWEDSIG yn datblygu ei gyfansoddiad, gan gyfarfod ym mis Mawrth i drafod y mater.

 

Beat Cymru

Esboniodd Ewan y byddai Gofal a Beat Cymru yn cydweithio yn ystod y flwyddyn i ddod, gan ariannu un swydd. Dywedodd fod llawer o'r manylion ynghylch pa waith fyddai'n parhau yn dal i fod yn destun trafod, ond roedd yn gobeithio gwneud cyhoeddiad cyn bo hir. Dywedodd fod Gofal yn siarad â'r Byrddau Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru am gyllid, gan ychwanegu y byddai'r cydweithio yn gyfle i Beat Cymru gyrraedd gwahanol gynulleidfaoedd. Mynegodd Bethan bryder bod diffyg cyfathrebu wedi bod â staff Beat a bod pobl wedi cysylltu â hi sydd am gael mynediad i'r gwasanaeth. Roedd hefyd eisiau gwybod a fyddai Beat Cymru yn cadw ei frand, ac atebodd Ewan ei fod yn gwneud synnwyr i gadw pethau fel ag y maent.

 

Amlygodd Susannah lwyddiant gwaith Beat Cymru mewn ysgolion a dweud bod grwpiau wedi'u ffurfio yng ngogledd Cymru a de Cymru, ond nid yn y canolbarth. Dywedodd ei bod yn gobeithio y gellir defnyddio'r gwirfoddolwyr i ddosbarthu taflenni i feddygfeydd a llyfrgelloedd.

 

Materion i'w codi

Penderfynwyd:

·         Bydd y grŵp yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar yr adolygiad o wasanaethau cleifion preswyl arbenigol i oedolion Haen 4;

·         Bydd y grŵp yn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i CAHMS;

·         Bydd y grŵp yn ysgrifennu at y Gweinidog iechyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i'r Fframwaith Anhwylderau Bwyta;

·         Bydd y grŵp yn gwahodd cynrychiolydd o Gymdeithas Feddygol Prydain i'r cyfarfod nesaf i drafod sut mae meddygon teulu/staff gofal cynradd yn adnabod a rheoli anhwylderau bwyta?

 

 

Unrhyw fater arall

Bydd Bethan yn cwrdd â Tina Gambling o Brifysgol Caerdydd yn fuan i drafod ei chanfyddiadau ynghylch hunan-barch mewn addysg.

 

Cytunodd y grŵp i gyfarfod ym mis Mai ac yna ym mis Medi.